Skip to main content

Dyddlyfrau

Ynghylch dyddlyfrau

Mae dyddlyfr yn rhoi lle personol i chi i gyfathrebu'n breifat â'ch hyfforddwr. Gallwch ddefnyddio dyddlyfr fel offeryn hunanfyfyriol i gofnodi eich barn, syniadau a phryderon am eich cwrs. Gallwch hefyd drafod a dadansoddi deunyddiau sy’n ymwneud â'r cwrs. Er enghraifft, gallwch ddisgrifio’r problemau a wyneboch a sut y gwnaethoch eu datrys. Efallai bydd eich hyfforddwr yn cyfyngu'r ffocws a rhestru’r pynciau i'w trafod.

Gall eich hyfforddwr raddio eich cyfraniadau dyddlyfr neu eu defnyddio i gyfathrebu yn unig. Yn y naill enghraifft, gallwch wneud nifer o gofnodion mewn dyddlyfr.

Cael mynediad at ddyddlyfrau

Os yw’ch hyfforddwyr wedi ychwanegu dyddiad cyflwyno, gallwch gyrchu dyddlyfrau a raddir o’ch tudalennau Graddau, y calendr, a’r ffrwd gweithgarwch.

Hysbysiad o ddyddlyfr wedi'i ychwanegu yn y ffrwd gweithgarwch

Os yw dyddiad cyflwyno dyddlyfr a raddir wedi mynd heibio, byddwch yn cael gwybod yn adran Pwysig y ffrwd gweithgarwch.

Tudalen Cynnwys y Cwrs

Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch dyddlyfrau ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Mae eicon yn ymddangos nesaf at y teitl i ddynodi gweithgarwch newydd.

Dyddlyfr ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gyda'r eicon newydd wedi'i amlygu

Gall eich hyfforddwr hefyd drefnu dyddlyfrau mewn ffolderi a modiwlau dysgu.

Efallai bydd eich hyfforddwr yn ychwanegu amodau rhyddhau cyn i chi allu gweld dyddlyfr. Er enghraifft, efallai bydd rhaid i chi ennill gradd benodol ar brawf cyn i chi allu agor y dyddlyfr.

Nid yw dyddlyfr gyda'r cynnwys testun ar gael a nodyn "Rhaid i chi ennill 48 pwynt neu uwch neu Astudiaeth Achos 2: Teulu Harris i gael mynediad at y cynnwys hwn" yn cael ei arddangos oddi tano

Gwylio fideo am Ddyddlyfrau yn Blackboard

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar Vimeo

Ychwanegu cofnodion dyddlyfr a sylwadau

Ar dudalen y dyddlyfr, mae eich hyfforddwr yn tueddu i ddarparu neges gyda’r cyfarwyddiadau a'r ffeiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau arno.

Gallwch greu cynifer o gofnodion dyddlyfr ag y mynnwch. Gallwch hefyd wneud sylwadau ar gofnodion dyddlyfrau. Gallwch ychwanegu sylw ar ôl i'ch hyfforddwr wneud sylw ar gofnod i barhau'r sgwrs.

Os yw'ch hyfforddwr wedi ychwanegu cyfarwyddyd ar gyfer graddio at ddyddlyfr, gallwch ei weld cyn ac ar ôl i chi ddechrau eich cyflwyniad. Dewiswch Mae'r eitem hon wedi'i graddio gan ddefnyddio cyfarwyddyd yn y panel ochr i weld y cyfarwyddyd.

Os ydych eisiau, gallwch weld y cyfarwyddyd ochr yn ochr â chyfarwyddiadau'r dyddlyfr. Gallwch ehangu pob un o feini prawf y cyfarwyddyd i weld y lefelau cyflawniad a threfnu'ch ymdrechion i fodloni gofynion y gwaith a raddir.

If your institution uses the Video Studio feature within Blackboard, you can add audio or video recordings to your journal entry. Go to Video Studio for more information.

learn_instructor_journal_content-editor.png

Gallwch ddefnyddio'r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun a phlannu delweddau ac atodi ffeiliau. Os ydych yn edrych ar y golygydd ar sgrin lai, dewiswch yr eicon plws i weld y ddewislen opsiynau. Dim ond eich hyfforddwr sy'n gallu gweld y cynnwys a ychwanegwch.

Cynghoryn

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

Wrth i chi deipio yn y golygydd, bydd y cyfrif geiriau yn ymddangos o dan y golygydd. Ar ôl i chi gadw, nid ymddengys y cyfrif geiriau bellach.

Hysbysiadau sylwadau newydd

Rhoddir gwybod i chi yn y ffrwd gweithgarwch pan fydd sylwadau newydd yn cael eu gwneud yn eich dyddlyfr.

Hysbysiad yn y llif gweithgarwch bod sylwadau newydd wedi'u gwneud mewn dyddlyfr

Yn eich dyddlyfr, mae’r nifer o sylwadau yn ymddangos fel dolen dan bob cofnod. Mae label “Newydd” yn ymddangos gyda nifer y sylwadau newydd. Dewiswch y ddolen Dangos Sylwadau i agor yr adran sylwadau. Dewiswch y ddolen Cuddio Sylwadau i gwympo'r adran sylwadau.

Cofnod dyddlyfr gyda'r dolenni i wneud sylw a dangos sylwadau o dan y cofnod wedi'u hamlygu. Mae baner newydd yn dangos bod 1 sylw newydd.

Golygu a dileu cofnodion a sylwadau

Gall hyfforddwyr olygu neu ddileu cofnodion a sylwadau unrhyw un. Gallwch olygu neu ddileu eich cofnodion a sylwadau eich hun yn unig.

Agorwch ddewislen cofnod neu sylw i gael mynediad at y swyddogaethau Golygu a Dileu. Os ydych chi neu eich hyfforddwr wedi dileu cofnod, dilëir pob sylw am y cofnod hefyd.

Ehangwyd dewislen cofnod dyddlyfr i ddangos yr opsiynau Golygu a Dileu

Ble mae graddau fy nyddlyfr?

Ni raddir cyflwyniadau dyddlyfr yn awtomatig. Mae rhaid i'ch hyfforddwr raddio eich gwaith a chyhoeddi'r radd.

Wrth i'ch hyfforddwr gyhoeddi graddau, byddwch yn eu gweld yn eich ffrwd gweithgarwch. Dewiswch Gweld fy ngradd i ddangos eich gradd.

Hysbysiad yn y ffrwd gweithgarwch bod gan gofnod dyddlyfr gradd wedi'i bostio ar y chwith, gyda saeth yn dangos bod y botwm Gweld fy ngradd yn arwain at y gradd, a ddangosir ar y dde.

Gallwch hefyd gael mynediad at eich cyflwyniad a raddiwyd ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch deitl dyddlyfr i agor y panel Manylion a Gwybodaeth. Os ddefnyddiodd eich hyfforddwr gyfarwyddyd i raddio'ch cyflwyniad, dewiswch Mae'r eitem hon wedi'i graddio gan ddefnyddio cyfarwyddyd er mwyn agor y cyfarwyddyd wrth ochr y dyddlyfr. Ar yr adeg hon, ni all eich hyfforddwr ychwanegu graddau at y cyfarwyddyd ond gall ei ddefnyddio fel cyfeiriad.

Y panel Manylion a Gwybodaeth, yn dangos gradd y dyddlyfr

Mae'ch graddfeydd hefyd yn ymddangos ar y tudalennau graddfeydd cyffredinol a rhai'r cwrs.