Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin Hyfforddwyr ar gyfer Ally

Cyffredinol

Ar gyfer pa Systemau Rheoli Dysgu mae Ally ar gael?

Mae Ally ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y Systemau Rheoli Dysgu hyn:

  • Blackboard 9.1 (rhyddhau Ch2 2017 CU3 ac uwch)

  • Blackboard SaaS Golwg Cwrs Gwreiddiol ac gwedd cwrs Ultra

  • Instructure Canvas

  • Moodle a Hunanletyir

  • Agor yr LMS

  • D2L Brightspace

  • Schoology

Pa borwyr sydd wedi'u cefnogi?

Cefnogir Ally ar yr un porwr y defnyddiwch i gael mynediad at y System Rheoli Dysgu (LMS).

  • Google Chrome™

  • Mozilla Firefox®

  • Microsoft Edge®

  • Safari®

Beth sy'n digwydd pan gaiff cwrs ei gopio? A yw Ally yn mynd gyda chopi'r cwrs?

Ydy. Pan rydych yn copïo cwrs, bydd pob fformat amgen ac adborth hyfforddwr ar gael yn y cwrs newydd hefyd.

Nodyn

Gall fod oedi cyn i bopeth symud draw i'r cwrs newydd.

Pan rydych yn archifo cwrs, dim ond cyfeiriadau at hygyrchedd ffeil sydd ar gael. Mae Ally yn wasanaeth yn y cwmwl a bydd yn cadw'r fformatau amgen ar weinyddion Ally, sy'n golygu na chaiff y rhain eu gwthio yn ôl at y LMS. Ni chaiff y fformatau amgen eu cadw o fewn archif y cwrs, ond bydd y cyfeiriad o archif y cwrs yn parhau i fod ar gael.

Beth i'w ystyried wrth ychwanegu delweddau annibynnol at Fy Nghynnwys WYSIWYG?

Pan fyddwch chi'n ychwanegu delweddau annibynnol at gynnwys WYSIWYG, rhaid i chi ychwanegu ei metadata â llaw - fel testunau amgen - i sicrhau ei hygyrchedd. Mae angen gwneud hyn gan na fydd metadata a ychwanegwyd yn flaenorol at ddelweddau annibynnol yn cael ei gopïo'n awtomatig.

Unwaith bod disgrifiadau amgen wedi'u hychwanegu'n uniongyrchol at ddelweddau ar y dudalen WYSIWYG, cânt eu cadw pan gaiff cwrs ei gopïo.

Beth yw rhai enghreifftiau o sut gall hygyrchedd fod o fudd i bob myfyriwr?

Mewn nifer o achosion, mae gwella hygyrchedd cynnwys y cwrs o fudd i bob myfyriwr, gan gynnwys y rheiny sydd heb anabledd. Cysylltir hygyrchedd yn agos ag ansawdd a defnyddioldeb deunyddiau cwrs yn aml.

Enghraifft 1: Mae cael copi digidol go iawn o ddogfen yn lle sgan yn gwneud y ddogfen yn fwy defnyddiadwy ar gyfer pob myfyriwr. Efallai y bydd yn gwneud y ddogfen yn haws i'w darllen, yn enwedig ar gyfer sganiau o ansawdd isel, ac yn caniatáu myfyrwyr i chwilio trwy'r ddogfen a chanfod cynnwys penodol, copïo a gludo rhannau o'r ddogfen, ac yn y blaen.

Enghraifft 2: Mae'r fformat amgen HTML Semantig yn ymatebol yn llwyr ac yn addas ar gyfer dyfeisiau syml. Mae'n gwneud defnyddio cynnwys ar ddyfeisiau symudol yn haws ar gyfer pob myfyriwr. Mae'r fformat amgen ePub yn hwyluso newid arddangosiad gweledol dogfen ac yn caniatáu ychwanegu anodiadau ac amlygiadau. Gellir defnyddio'r fformat amgen sain wrth deithio i'r gwaith, wrth redeg, ac yn y blaen. Gall fformat amgen y fersiwn cyfieithiedig helpu myfyrwyr ail iaith.

Enghraifft 3: Bydd cael fideo â chapsiynau neu drawsgrifiad yn gwneud y fideo yn fwy defnyddiadwy ar gyfer pob myfyriwr. Mae'n caniatáu’r myfyriwr i chwilio trwy'r fideo a chanfod rhannau penodol, gellid parhau i wylio'r fideo mewn amgylchedd â lefel sŵn uchel (er enghraifft, wrth deithio i'r gwaith), ac ati.

Enghraifft 4: Gall cael delwedd â disgrifiad o ansawdd wneud y ddelwedd yn fwy defnyddiadwy ar gyfer pob myfyriwr. Gall helpu egluro cynnwys y ddelwedd a sut mae'n cysylltu â'r cyd-destun o'i gwmpas, mae'n gwneud y ddelwedd yn chwiliadwy, ac ati.

Enghraifft 5: Mae darparu strwythur penawdau da ar gyfer dogfen hir yn gwneud y ddogfen yn fwy defnyddiadwy ar gyfer pob myfyriwr. Mae'n darparu strwythur ychwanegol, sy'n gwneud gweithio trwy a phrosesu'r cynnwys yn haws. Mae hefyd yn caniatáu cynhyrchu Tabl Cynnwys, sy'n gallu gwneud llywio'r ddogfen yn haws.

A fydd Ally yn newid sut mae fy nghwrs yn ymddangos?

Yr unig wahaniaeth y gwelwch o fewn eich cwrs yw bod Ally yn darparu sgôr hygyrchedd ar gyfer eich ffeiliau. Dangosir y sgôr gan eicon medrydd nesaf at ffeiliau eich cwrs. Dewiswch y medrydd i weld a gwella hygyrchedd eich ffeil.

Beth mae myfyrwyr yn ei weld?

Mae myfyrwyr yn gweld dewislen i'r chwith neu'r dde pob dogfen. O'r ddewislen hon, gallant ddewis Fformatau amgen i gyrchu fersiynau sydd ar gael iddynt eu lawrlwytho. Er bod modd iddynt lawrlwytho fformatau amgen eich ffeiliau, mae'n well i chi wella'r ddogfennau trwy'r adborth hyfforddwr.

Beth sy'n digwydd i fy ffeiliau gwreiddiol?

Bydd y ffeil wreiddiol yn aros yn eich LMS. Nid yw Ally yn cadw copi o'r ffeil wreiddiol, ei symud na ei dileu.

Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?

Mae Ally yn darparu fformatau amgen ar gyfer y mathau hyn o gynnwys:

  • Ffeiliau PDF (ni chefnogir ffontiau wedi'u hamgodio ac wedi'u haddasu)

  • Ffeiliau Microsoft® Word

  • Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®

  • Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice

  • Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho

  • Cynnwys a grëir yng ngolygydd cwrs yr LMS (WYSIWYG)

    Nodyn

    Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer Blackboard Ultra, Blackboard Gwreiddiol, Instructure Canvas, D2L Brightspace a Schoology y mae fformatau amgen ar gyfer cynnwys WYSIWYG ar gael.

Gellir cynhyrchu'r fformatau amgen hyn:

  • Fersiwn OCR (ar gyfer dogfennau wedi'u sganio)

  • PDF wedi'i dagio (ar gyfer ffeiliau Word, PowerPoint ac Open Office/LibreOffice ar hyn o bryd)

  • Immersive Reader (LMS yn unig)

  • HTML sy'n addas ar gyfer dyfeisiau symudol

  • Sain

  • ePub

  • Braille Electronig

  • BeeLine Reader

  • Fersiwn Cyfieithedig

    • Mae’r Fersiwn Cyfieithedig wedi’i analluogi yn ddiofyn. Gall gweinyddwyr gyflwyno cais am gymorth i’w alluogi.

A gynhyrchir fformatau amgen ar ôl cyflwyno cais i lawrlwytho?

Pan ofynnir am fformat amgen ar gyfer eitem gynnwys am y tro cyntaf, mae Ally yn cynhyrchu'r fformat amgen ar alw. Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion, fe’i cynhyrchir o fewn 1-2 funud.

Ar ôl ei gynhyrchu, lawrlwythir y fformat amgen. Wedyn, mae Ally yn cadw'r canlyniad yn y storfa, er mwyn cynhyrchu a lawrlwytho ceisiadau ychwanegol ar gyfer yr un fformat amgen o'r storfa ar unwaith.

Cwestiynau Cyffredin am Fformatau Amgen ar gyfer Hyfforddwyr

Beth mae rhaid i'r hyfforddwr ei wneud i gynhyrchu fformatau amgen ar gyfer eitem o gynnwys?

Dim byd. Bydd Ally yn sylwi ar unrhyw materion presennol neu newydd yn awtomatig, yn ei rhedeg trwy'r rhestr wirio hygyrchedd, ac yn gwneud y fformatau amgen ar gael i'r myfyriwr a'r hyfforddwr.

Oes terfyn maint ffeil?

Nid yw Ally yn gorfodi maint ffeil mwyaf. Efallai bydd achosion lle mae'r algorithm yn methu â chynhyrchu fformatau amgen ar gyfer rai ffeiliau mawr.

  • Cadwch y cynnwys gwreiddiol i lai na 100 o dudalennau i gynhyrchu fformat OCR ar gyfer dogfennau wedi'u sganio neu unrhyw fformat amgen lle mae'r ffynhonnell yn PDF heb ei dagio.

  • Cyfyngwch gynnwys i 200,000 o nodau ar gyfer y fformat sain. Mae’r terfyn nodau hyn fel arfer yn cyfateb i o leiaf 30 tudalen neu nifer o oriau o sain.

  • Cyfyngwch gynnwys i 60,000 o nodau ar gyfer y fformat wedi’i gyfieithu.

  • Cyfyngwch ffeiliau wedi’u trwsio sy’n cael eu huwchlwytho drwy banel Adborth i Hyfforddwyr i 50MB.

Sut mae Ally yn trin cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair?

Mae Ally yn canfod cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair ac yn rhoi sgôr hygyrchedd o 0% i’r cynnwys. Wedyn, mae Ally yn rhoi cyfarwyddiadau am sut i dynnu’r cyfrinair trwy adborth i hyfforddwyr. Nid yw Ally yn cynhyrchu unrhyw fformatau amgen ar gyfer cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair, gan na allwn gael mynediad at y cynnwys ei hun.

Sut mae Ally yn trin Fy Nghynnwys LMS sydd angen dilysu?

Mae Ally yn cynnwys cynnwys LMS yn unig sy'n gofyn am ddilysu ar gyfer Canvas, Blackboard, a D2L Brightspace. Nid yw Ally yn cynnwys Fy Nghynnwys LMS sy'n gofyn am ddilysu mewn fformatau amgen ar gyfer Moodle, Websites, neu WCM, gan na allwn gael mynediad i'r cynnwys gwirioneddol.

Pwysig

Mae angen i URLs cynnwys D2L Brightspace bwyntio at ardal cynnwys y cwrs.

A allaf analluogi fformatau amgen?

Ydy. Gallwch analluogi fformatau amgen ar gyfer eitemau unigol o gynnwys, os ydych eisiau gwneud hynny. Gallwch eu galluogi eto yn nes ymlaen.

Fformat amgen y Fersiwn Cyfieithiedig

Mae'r fformat amgen hwn yn darparu fersiwn peirianyddol o'r cynnwys gwreiddiol i sawl iaith (gweler y rhestr lawn isod). Cefnogir dogfennau PDF, Word, Powerpoint ac HTML.

Nodyn

Mae manwl gywirdeb y cyfieithiadau yn amrywio ac yn dibynnu ar y math o iaith a ddefnyddir yn y ddogfen. Er enghraifft, os oes llawer o eiriau technegol, strwythurau brawddegau cymhleth ac ymadroddion llafar lleol.

Pam defnyddio fformat amgen y Fersiwn Cyfieithiedig?

Mae fformat amgen y Fersiwn Cyfieithedig yn wych ar gyfer cynnwys nad yw yn eich iaith gyntaf. Mae'r Fersiwn Gyfieithedig yn adnodd delfrydol i'w gymharu â'r ddogfen wreiddiol pan fyddwch chi'n sownd neu'n cael trafferth deall.

Ym mha ieithoedd mae fformat amgen y Fersiwn Cyfieithiedig ar gael?

Mae'r Fersiwn Cyfieithiedig ar gael ar hyn o bryd yn yr ieithoedd dilynol:

  • Affricaneg

  • Albaneg

  • Amhareg

  • Arabeg

  • Armeneg

  • Aserbaijani

  • Bengaleg

  • Bosnieg - Lladin

  • Bwlgareg

  • Catalaneg

  • Tsieinëeg – Wedi’i symleiddio

  • Tsieinëeg - Traddodiadol

  • Croateg

  • Tsieceg

  • Daneg

  • Dari

  • Iseldireg

  • Saesneg

  • Estoneg

  • Ffinneg

  • Ffrangeg

  • Ffrangeg (Canada)

  • Georgeg

  • Almaeneg

  • Groeg, Modern

  • Gwjarati

  • Haiteg

  • Hausa

  • Hebraeg

  • Hindi

  • Hwngareg

  • Islandeg

  • Indoneseg

  • Eidaleg

  • Japaneeg

  • Kannada

  • Kazakh

  • Corëeg

  • Latifeg

  • Lithwaneg

  • Macedoneg

  • Maleieg

  • Malayalam

  • Malti

  • Mongoleg

  • Norwyeg Bokmål

  • Pashto

  • Perseg (Farsi)

  • Pwyleg

  • Portiwgaleg

  • Rwmaneg

  • Rwsieg

  • Serbeg - Lladin

  • Sinhala

  • Slovak

  • Slofeneg

  • Somaleg

  • Sbaeneg

  • Sbaeneg (Mecsico)

  • Swahili

  • Swedeg

  • Tagalog

  • Tamileg

  • Telugu

  • Thai

  • Tyrceg

  • Wcreineg

  • Wrdw

  • Uzbek

  • Fietnameg

  • Cymraeg

Nid yw cefnogaeth ar gyfer yr ieithoedd canlynol yn fformat amgen y Fersiwn Cyfieithiedig ar gael:

  • Bosnieg (Syrilig)

  • Serbeg (Syrilig)

Cwestiynau Cyffredin am Adborth i Hyfforddwr

Sut ydw i'n gweld yr holl broblemau?

Dewiswch Pob broblem i weld pob problem yn y ffeil. Mae'r olwg hon yn dangos ichi faint y gall y sgôr wella trwy atgyweirio pob problem. Canfyddwch y broblem rydych am ddechrau ei atgyweirio a dewiswch Atod.

alt

Pa drothwy sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer lliw'r dangosydd hygyrchedd?

Rydym yn darparu sgôr hygyrchedd i bob dogfen, sef sgôr ganran sydd i fod i adlewyrchu pa mor hygyrch yw eitem, faint o bobl y gall effeithio arnynt, pa mor ddifrifol mae'n effeithio arnynt, ac ati. I gyfrifo'r sgôr hygyrchedd ar gyfer dogfen, rydym yn cymryd cyfartaledd pwysedig o'r gwahanol reolau/gwiriadau hygyrchedd, gan fod rhai rheolau yn bwysicach/mwy sylweddol nag eraill.

O fewn y Rhyngwyneb Defnyddiwr, rydym yn defnyddio trothwyon ar gyfer penderfynu lliw'r dangosydd.

Eiconau Sgôr Hygyrchedd Ally

Mae sgoriau yn amrywio o Isel i Perffaith. Po uchaf y sgôr po leiaf y problemau.

  • alt

    Isel (0-33%): Angen help! Mae problemau hygyrchedd difrifol.

  • alt

    Canolig (34-66%): Ychydig yn well. Mae'r ffeil rhywfaint yn hygyrch ac mae angen gwella.

  • alt

    Uchel (67-99%): Bron yna! Mae'r ffeil ar gael ond mae rhagor o welliannau yn bosibl.

  • alt

    Perffaith (100%): Perffaith! Ni nododd Ally unrhyw broblemau hygyrchedd ond efallai y bydd gwelliannau pellach yn bosibl o hyd.

Mae hygyrchedd yn sbectrwm lle mae gwelliannau pellach bob amsehygyrcheddr yn bosibl, felly mae'n anodd darparu pwynt bod yr eitem yn dod yn "hygyrch". Fodd bynnag, unwaith y bydd eitem yn y parth gwyrdd dylai fod yn gwneud yn rhesymol dda.

Ar gyfer pa fathau o gynnwys mae rhagolygon yn y porwr ar gael?

Mae rhagolygon yn y porwr ar gael ar gyfer y ffeiliau hyn ar hyn o bryd:

  • Delweddau

  • Dogfennau PDF

  • Dogfennau Word

  • Cyflwyniadau PowerPoint

  • Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice (Writer ac Impress)

  • Cynnwys WYSIWYG a grëwyd yn eich LMS

Wedyn, defnyddir y rhagolygon hyn i nodi ble gallwch ddod o hyd i broblemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Darparir amlygiadau ar hyn o bryd ar gyfer y problemau hyn:

  • Delweddau heb ddisgrifiad amgen priodol

  • Darnau o destun â chyferbyniad annigonol

  • Tablau heb benawdau tabl

Bydd adborth ar gyfer problemau hygyrchedd eraill ond yn dangos y rhagolwg o gynnwys heb amlygiadau.

Fideos YouTube

Beth mae Ally yn ei wneud â fideos YouTube?

Mae Ally yn gwirio fideos YouTubeTM am gapsiynau ac yn cyflwyno'r wybodaeth hon yn yr adroddiadau hygyrchedd. Nid ystyrir capsiynau YouTube a gynhyrchwyd yn awtomatig i fod yn gapsiynau dilys. Ystyrir unrhyw fideo YouTube sydd â chapsiynau a gynhyrchwyd yn awtomatig i fod ‘heb gapsiwn’ yn yr Adroddiad Sefydliadol.

Mae Ally yn gwirio am fideos YouTube wedi’u plannu a dolenni i fideos YouTube.

O fewn yr adroddiad, mae'r golofn "HTML: Mae’r cynnwys HTML yn cynnwys fideos heb gapsiynau" yn amlygu'r nifer o gynnwys a ffeiliau HTML sydd â fideos YouTube heb gapsiynau. Yn ffeil allgludo'r Adroddiad Sefydliadol, enw’r golofn yw HtmlCaption:2.

Pwysig

Nid yw'r broblem hon yn cyfrannu i'r sgôr cyffredinol gan na all Ally ddilysu manwl gywirdeb capsiynau a gynhyrchwyd yn awtomatig eto.

Nid oes unrhyw adborth na fformatau amgen ar gael ar yr adeg hon ar gyfer fideos.