Gwella Hygyrchedd Cynnwys
Ar ôl i chi ddod o hyd i'r sgôr hygyrchedd ar gyfer darn o gynnwys, gallwch ddechrau archwilio'r problemau hygyrchedd a gwella'r cynnwys i gynyddu'r sgôr. Mae cynnwys hygyrch yn bwysig ar gyfer unrhyw gynulleidfa, ac mae Ally yn rhoi'r offer i chi i allu deall problemau cyffredin a gwella'ch cynnwys.
Rhestr wirio hygyrchedd
Mae cynnwys cyrsiau hygyrch yn ei wneud yn haws i bawb ddarllen a chyrchu eich deunyddiau a gall helpu i wella ansawdd a defnyddioldeb cyffredinol. Mae llawer o addasiadau ymdrech isel y gallwch eu gwneud i ddechrau creu cynnwys mwy hygyrch.
Defnyddiwch faint ffont o 12px ar y lleiaf.
Cael cyferbyniad digonol rhwng testun a chefndir.
Cynghoryn
Defnyddiwch ddarn o offer fel y Colour Contrast Analyser gan The Paciello Group i wirio cyferbyniad eich testun.
Defnyddio dulliau pennyn priodol.
Defnyddio strwythur pennyn rhesymegol.
Ychwanegu disgrifiadau amgen at ddelweddau sy'n cyfleu ystyr llawn y ddelwedd.
Defnyddio tablau ar gyfer data tablaidd yn unig.
Sicrhau bod gan bob tabl benawdau colofn.
Defnyddio ymarferoldeb rhestr fewnol ar gyfer pob rhestr.
Sicrhau bod gan bob dolen destun sy'n disgrifio'r targed.
Defnyddio templedi sleidiau PowerPoint mewnol.
Peidio â defnyddio PDFs wedi’u sganio.
Sicrhau bod pob PDF wedi'i dagio.