Trwsio Cyferbyniad Testun
Mae rhannu cyflwyniadau, dogfennau a chynnwys cyrsiau â myfyrwyr yn gallu darparu deunyddiau adolygu ac astudio defnyddiol iddynt. Mae'n bwysig bod modd gweld y testun a'i fod yn ddarllenadwy. Os ydych eisiau i fyfyrwyr ei astudio, bydd rhaid iddynt allu ei ddarllen.
AllyMae gwiriadau cyferbyniad yn gwirio a oes digon o gyferbyniad rhwng lliw y testun a'i liw cefndir. Gall pawb weld hi’n anodd darllen cynnwys sydd â diffyg cyferbyniad rhwng lliw'r testun a lliw'r cefndir ond mae myfyrwyr sydd â nam ar eu golwg megis lliwddallineb yn gweld hi’n arbennig o anodd ei ddarllen.
Ally yn defnyddio'r gofynion cyferbyniad a bennir fel rhan o ganllawiau WCAG 2.2 AA.
Trwsio'r cyferbyniad yn eich ffeil
Os oes cyferbyniad gwael yn eich testun, gallwch drwsio'r broblem hon ym meddalwedd eich cyflwyniad neu ddogfen. Uwchlwythwch y ffeil newydd i Ally pan fyddwch chi'n barod. Dewiswch Sut i ychwanegu disgrifiadau i gael cyfarwyddyd cam wrth gam ar sut i wneud hyn.
Dewiswch Sut i ychwanegu disgrifiadau a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Agorwch y ffeil ar eich cyfrifiadur.
Cynghoryn
Os nad oes gennych gopi o'r ffeil ar eich cyfrifiadur, gadewch banel adborth yr hyfforddwr a lawrlwythwch y ffeil o'r cwrs.
Newid cyferbyniad y testun.
Microsoft® Office: Dewiswch y testun. Agorwch ddewislen Lliw'r Ffont a dewiswch liw newydd gyda mwy o gyferbyniad.
LibreOffice: Dewiswch y testun. Dewiswch y saeth wrth ymyl Lliw Ffont a dewiswch liw newydd gyda mwy o gyferbyniad.
Defnyddiwch offeryn fel y Colour Contrast Analyzer gan The Paciello Group i wirio cyferbyniad y testun.
Cadwch y ffeil.
Lanlwythwch y ffeil wedi'i diweddaru i'ch cwrs.

Nodyn
Os ydych chi'n dal i gael y cyfarwyddiadau ar agor ym mhanel adborth yr hyfforddwr, dewiswch Nesaf a Pori i uwchlwytho'ch ffeil. Os nad ydych wedi agor y panel adborth i hyfforddwr, dewiswch ddangosydd y Sgôr Hygyrchedd nesaf at y ffeil yn eich cwrs a dewiswch Pori i uwchlwytho'ch ffeil.
Trwsio'r cyferbyniad yn eich cynnwys WYSIWYG
Crëwch neu golygwch gynnwys yng ngolygydd WYSIWYG eich cwrs. Wrth i chi deipio neu wneud newidiadau, caiff y sgôr Ally ei ddiweddaru'n awtomatig. Mae sgoriau yn amrywio o Isel i Perffaith. Po uchaf y sgôr po leiaf y problemau.
Arferion gorau cyferbyniad testun
Mae nifer o addasiadau syml y gallwch eu gwneud i wella darllenadwyedd testun.
Defnyddiwch ffontiau gyda llythrennau llydan.
Defnyddiwch faint ffont o 12px ar y lleiaf. Os ydych yn defnyddio ffont gyda strociau llythrennau tenau, defnyddiwch 16px ar y lleiaf.
Defnyddiwch ffontiau "tenau" ar gefndiroedd tywyll yn unig.
Defnyddiwch destun golau ar gefndiroedd tywyll.
Defnyddiwch destun tywyll ar gefndir golau.
Osgowch y cyfuniadau lliw canlynol:
Gwyrdd a choch
Gwyrdd a brown
Glas a phorffor
Gwyrdd a glas
Gwyrdd golau a melyn
Glas a llwyd
Gwyrdd a llwyd
Gwyrdd a du
Cynghoryn
Ddim yn siŵr os oes digon o gyferbyniad i'ch testun? Defnyddiwch y Dadansoddwr Cyferbyniad Lliw gan The Paciello Group i wirio'ch cynnwys.
Pam mae cyferbyniad testun yn bwysig?
Gall fod yn anodd darllen testun cyferbyniad isel mewn nifer o sefyllfaoedd.
Pan gaiff ei dangos yn y dosbarth
Ar gyfer myfyrwyr gyda dallineb lliw
Ar ffôn symudol gyda golau llachar neu rhywbeth yn disgleirio ar y sgrin
Ar fonitorau o ansawdd gwael
Mae cyferbyniad isel yn gallu achosi straeon ar y llygaid, ei gwneud yn anoddach darganfod a sganio cynnwys, ac yn achosi rhwystredigaeth.
Mae cyferbyniad da yn golygu y gall pawb weld y testun yn glir ac yn mwynhau gwell profiad cyffredinol o ddarllen eich cynnwys.