Skip to main content

Adroddiad Hygyrchedd Cwrs

Mae'r adroddiad hygyrchedd cwrs yn ategu’r dangosyddion hygyrchedd presennol. Mae’n darparu crynodeb hygyrchedd a throsolwg ar lefel y cwrs.

Canfod adroddiad hygyrchedd eich cwrs

Mae rhaid i'ch gweinyddwr ffurfweddu’r adroddiad cwrs er mwyn iddo ymddangos yn eich cyrsiau. Mae lle rydych yn gweld yr adroddiad yn dibynnu ar eich System Rheoli Dysgu (LMS).

  • Blackboard Original Course View: Offer Cwrs

  • Blackboard gwedd cwrs Ultra: Llyfrau ac Offer Cwrs

  • Fersiynau hŷn o Blackboard: Offer Myfyrwyr

    Cynghoryn

    Cuddio dolen yr adroddiad fel nad yw myfyrwyr yn ei gweld.

  • Moodle: Dashfwrdd Cwrs

  • Instructure Canvas: Bar llywio'r cwrs chwith

  • Schoology: Bar llywio'r cwrs chwith

  • D2L Brightspace: Cwrs Navbar

    Nodyn

    Mae gan dempledi cwrs yn D2L Brightspace adroddiadau cwrs hefyd.

Adroddiad hygyrchedd cwrs

Mae adroddiad hygyrchedd cwrs Ally yn cynnwys tabiau Trosolwg a Cynnwys er mwyn i chi gael y darlun mawr yn ogystal â manylion penodol ynghylch hygyrchedd eich cynnwys cwrs digidol.

  • Mae'r tab Trosolwg yn dangos sgôr hygyrchedd y cwrs, cynnwys y cwrs yn ôl math o gynnwys, a rhestr o bob problem a adnabyddir yn y cwrs

  • Mae’r tab Cynnwys yn dangos y cynnwys sydd â phroblemau hygyrchedd.

alt

Pob cynnwys cwrs

Mae'r holl gynnwys yn eich cwrs wedi'i grwpio yn ôl math o gynnwys. Dewiswch Dechrau i fynd i'r tab Cynnwys a dechrau trwsio problemau.

alt

Cynnwys Golygydd cynnwys LMS (WYSIWYG)

Pwysig

Mae canlyniadau ar gyfer cynnwys WYSIWYG ond yn ymddangos yr Adroddiad Sefydliadol ac Adroddiad hygyrchedd cwrs.

Mae Ally hefyd yn gwirio'r mathau o gynnwys hyn a grëwyd trwy olygydd cynnwys y system WYSIWYG am broblemau hygyrchedd.

Mae'r data yn ymddangos yn yr Adroddiad Sefydliadol ar ffurf HTML. Mae'n ymddangos yn yr allforyn CSV fel penawdau colofnau rhaglenni.

  • Blackboard Gwreiddiol

    • Ffolder Cynnwys (application/x-folder)

    • Eitem Cynnwys (application/x-item)

    • Modiwl Dysgu (application/x-learning-module)

    • Cynllun Gwers (application/x-lesson)

    • Dolen i Fforwm (application/x-link-discussion-topic)

    • Dolen We (application/x-link-web)

    • Rhaglen LTI wedi'i mewnblannu (application/x-lti-launch)

    • Pob math o gynnwys WYSIWYG arall gan gynnwys tudalen Wag a thudalen Modiwl (application/x-page)

  • Blackboard Ultra

    • Dogfen (application/x-document)

    • Ffolder (application/x-folder)

    • Modiwl Dysgu (application/x-learning-module)

    • Dolen i Fforwm (application/x-link-discussion-topic)

    • Dolen We (application/x-link-web)

    • Rhaglen LTI wedi'i mewnblannu (application/x-lti-launch)

  • Moodle

    • Aseiniad (application/x-assignment)

    • Llyfr (application/x-book)

    • Pennod llyfr (application/x-book-chapter)

    • Pynciau trafod (application/x-discussion-topic)

    • Disgrifiad fforwm (application/x-forum)

    • Disgrifiad geirfa (application/x-glossary)

    • Cofnod geirfa (application/x-glossary-entry)

    • Label (application/x-label)

    • Disgrifiad gwers (application/x-lesson-description)

    • Tudalen wers (application/x-lesson-page)

    • Cynnwys tudalen (application/x-page-content)

    • Cyflwyniad tudalen (application/x-page-intro)

    • Adran (application/x-section)

    • Maes Llafur (application/x-syllabus)

  • Canvas

    • Cyhoeddiad (application/x-announcement)

    • Aseiniad (application/x-assignment)

    • Pynciau Trafod (application/x-discussion-topic)

    • Disgrifiad cwis (application/x-quiz)

    • Maes Llafur (application/x-syllabus)

    • Tudalen (application/x-page)

  • D2L Brightspace

    • Pynciau Trafod (application/x-discussion-topic)

    • Ffeil (application/x-file)

    • Dolenni Gwe (application/x-link-web)

    • Modiwl (application/x-module)

    • Disgrifiad cwis (application/x-quiz)

  • Schoology

    • Aseiniad (application/x-assignment)

    • Pynciau Trafod (application/x-discussion-topic)

    • Tudalen (application/x-page)

Dewiswch pa broblemau i'w trwsio’n gyntaf

Defnyddiwch yr adroddiad i’ch helpu i benderfynu pa broblemau i'w trwsio’n gyntaf. Er enghraifft, gallech fynd i'r afael â chynnwys gyda'r materion mwyaf difrifol yn gyntaf neu ddechrau gyda'r cynnwys sy'n hawsaf i'w drwsio.

Dewiswch rhwng Cynnwys gyda'r materion hawsaf i'w datrys a Trwsio cynnwys sgôr isel. Gweld faint o ddarnau o gynnwys y byddwch chi'n eu trwsio. Dewiswch Dechrau.

alt

Problemau sy’n weddill

Rhestrir problemau yn nhrefn blaenoriaeth o ddifrifol i fach. Dylid mynd i'r afael â'r rhai a restrir gyntaf yn gyntaf. Mae Ally yn ystyried y nifer o fyfyrwyr a effeithir, pa mor aml mae'r broblem yn digwydd, a'r sgôr hygyrchedd er mwyn penderfynu'r flaenoriaeth.

alt
  • Difrifol. Y problemau hyn sy’n cyflwyno’r risg fwyaf i hygyrchedd ac mae arnynt angen y sylw mwyaf.

alt
  • Mawr. Mae'r problemau hyn yn effeithio ar hygyrchedd, ac er nad ydynt yn ddifrifol, mae arnynt angen sylw.

alt
  • Mân. Dylid ystyried y problemau hyn er mwyn cael sgôr hygyrchedd well.