Panel Adborth
Agor y Panel Adborth
Mae Ally yn rhoi adborth manwl a chymorth i chi i'ch helpu i fod yn arbenigwr ar hygyrchedd. Dysgwch am faterion hygyrchedd, pam eu bod yn bwysig, a sut i'w datrys. Gwyrdd yw'r nod!
Ar ôl i chi uwchlwytho ffeiliau yn eich cwrs, mae Ally yn cynhyrchu sgôr hygyrchedd ar gyfer pob ffeil. Mewn gwersi â ffeiliau lluosog, dangosir y sgôr hygyrchedd ar gyfer pob ffeil. Mewn ardaloedd lle rydych yn cyrchu ffeiliau, mae'r eicon hygyrchedd wedi ei leoli ar ochr dde neu chwith y ffeil.
Dewiswch y Sgôr hygyrchedd i agor y panel adborth.

Mae panel adborth Ally yn dangos rhagolwg o gynnwys y ddogfen yn ogystal ag adborth manwl a chefnogaeth i'ch helpu i drwsio eich problemau hygyrchedd.

Rhagolwg y ddogfen
Mae rhagolwg adborth yr hyfforddwr yn eich porwr yn dangos cynnwys ffeiliau PDF, dogfennau Word a dogfennau PowerPoint.

Amlygiadau
Mae'r rhagolwg yn amlygu ble gallwch ganfod problemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Mae amlygiadau'n dangos pob digwyddiad un math o broblem ar y tro. Er enghraifft, os nad oes disgrifiadau amgen ar eich delweddau, bydd yr amlygiadau yn dangos lle mae'r broblem benodol hon yn digwydd. Os oes cyferbyniad testun gwael yn eich dogfen hefyd, dewiswch y broblem honno yn y panel adborth i amlygu pob digwyddiad o'r broblem honno.
Darparir amlygiadau ar gyfer y problemau hyn:
Delweddau heb ddisgrifiad amgen priodol
Darnau o destun â chyferbyniad annigonol
Tablau heb benawdau tabl
Nodyn
Pob problem hygyrchedd arall heb ei hamlygu yn y rhagolwg.

Disgrifiad testun ar goll

Cyferbyniad testun

PDF wedi'i sganio
Offer y rhagolwg
Defnyddiwch yr offer uwchben y rhagolwg i archwilio'r problemau yn eich dogfen.
Symudwch trwy ragolwg y ddogfen tudalen yn ôl tudalen.
Gweld faint o weithiau mae problem benodol yn digwydd yn y ddogfen.
Neidiwch rhwng amlygiadau'r broblem.
Cuddio neu ddangos yr amlygiadau.
Chwyddo cynnwys y rhagolwg i mewn neu allan.
Lawrlwythwch y ffeil wreiddiol.
Canllawiau cam wrth gam
Ar gyfer ffeiliau hygyrchol, mae Ally yn dweud wrthych beth wnaethoch chi'n gywir. Ar gyfer ffeiliau â sgorau Isel i Uchel , mae Ally yn dangos y problemau i chi ac yn rhoi cyfarwyddyd cam wrth gam ar sut i'w hatgyweirio.

Sgôr hygyrchedd: Gweler y sgôr gyffredinol ar gyfer y ffeil gyfan.
Pob mater: Dewiswch Pob mater i weld pob mater yn y ffeil. Mae'r olwg hon yn dangos ichi faint y gall y sgôr wella trwy atgyweirio pob problem. Canfyddwch y broblem rydych am ddechrau ei atgyweirio a dewiswch Atod.

Disgrifiad o'r broblem a chymorth cam wrth gam: Gweler y disgrifiad am broblem gyda'r ffeil. Mae Ally yn trefnu'r adborth hwn mewn coeden benderfynu, felly y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw darllen y cyfarwyddiadau ac ymateb i'r awgrymiadau. Dysgu beth yw'r broblem, pam mae'n bwysig, a sut i'w chywiro'n briodol.
Dewis Beth mae hyn yn ei olygu i ddysgu rhagor am y broblem.
Dewiswch Sut i a dilyn y camau i wella hygyrchedd y ffeil.
Cynghoryn
Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn newid yn dibynnu ar y ffeil a'r problemau hygyrchedd a ganfuwyd. Er enghraifft, â PDF, gallech weld cyfarwyddiadau ar sut i drefnu bod y PDF wedi’i thagio. Dewiswch Sut i Drefnu bod PDF Wedi’i Thagio.
Llwytho i fyny: Uwchlwythwch ffeiliau wedi'u diweddaru i ddisodli'r un sy'n bodoli eisoes.