Trosolwg o Adroddiad Hygyrchedd Ally
Mae’r trosolwg yn nodi llwyddiant eich gwefan yn ôl mis neu flwyddyn. Mae'n dangos y sgôr hygyrchedd gyffredinol, cyfanswm nifer y parthau a chynnwys, ynghyd ag unrhyw broblemau hygyrchedd a ddaethpwyd o hyd iddynt.
Defnyddiwch y ddewislen cyfnod i ddangos yr adroddiad yn ôl mis neu flwyddyn. Allforiwch yr adroddiad i gael rhagor o fanylion.
Cynghoryn

Sgôr hygyrchedd
Mae’r graff llinell hwn yn dangos sgôr hygyrchedd yr holl gynnwys dros y cyfnod o amser a ddewiswyd gennych. Er enghraifft, os ydych chi'n dewis Yn ôl mis yn y ddewislen math o gyfnod, gallwch gymharu perfformiad dros nifer o fisoedd.
Sgôr hygyrchedd y flwyddyn: Cyfartaledd sgoriau hygyrchedd yr holl eitemau cynnwys yn y flwyddyn galendr honno.
Cynghoryn
Os ydych yn defnyddio Rheolwr Cymunedol y We, blwyddyn academaidd yw hon.
Sgôr hygyrchedd mis: Cyfartaledd sgoriau hygyrchedd yr holl eitemau cynnwys yn y mis hwnnw.
Po uchaf y sgôr y gorau mae eich cynnwys yn perfformio. Pwyntiwch at gyfnod ar y graff llinell i weld y sgorau.
Tudalennau Gwe: Y sgôr gyfartalog ar gyfer tudalennau'r wefan.
Ffeiliau: Y sgôr gyfartalog ar gyfer cynnwys ffeil wedi'i uwchlwytho. Er enghraifft, ffeiliau PDF, dogfennau Word, cyflwyniadau PowerPoint, delweddau ac ati.
Yn gyffredinol: Mae'r sgôr hygyrchedd cyfunol yn gyfartaledd pwysol o sgoriau ffeiliau a thudalennau gwe.
Dewiswch gyfnod i weld rhagor o fanylion ar gyfer y cyfnod hwnnw yn adroddiadau Cyfanswm y parthau, Cyfanswm y ffeiliau, Cyfanswm y tudalennau, Sgôr hygyrchedd gyffredinol, a Problemau hygyrchedd. Hefyd gallwch ddewis cyfnod newydd yn y ddewislen gyfnod cyfredol.
Cynghoryn
Â'ch bysellfwrdd, pwyswch Tab i lywio drwy bob cyfnod ar y graff. Pwyswch y Bylchwr i'w ddewis.

Cyfanswm y parthau, tudalennau gwe a ffeiliau
Gallwch weld y cyfanswm o’r ffeiliau ar eich safle yn yr adroddiad Cyfanswm y ffeiliau. Gweld nifer y parthau a'r tudalennau gwe ar eich gwefan yn yr adroddiadau Cyfanswm parthau a Cyfanswm tudalennau. Mae adroddiad Cyfanswm y parthau yn cymharu’r cyfnod presennol i’r cyfnod blaenorol.
Yn yr adroddiad Cyfanswm ffeiliau yn defnyddio lliw i gynrychioli gwahanol fathau o ffeiliau. Pwyntiwch at fath o gynnwys i weld y cyfanswm a uwchlwythwyd a sgôr hygyrchedd ar gyfer y math hwnnw.
Cynghoryn
Mae defnyddwyr darllenydd sgrin yn gallu pwyso Tab i symud trwy'r tabl Cyfanswm y ffeiliau cudd.
Dewiswch gyfnod newydd o’r llinell graff Sgôr Hygyrchedd neu o ddewislen y cyfnod presennol i ddangos cyfnod newydd.

Sgôr hygyrchedd gyffredinol
Gweld y sgôr hygyrchedd ar gyfer y cyfnod a ddewiswyd.
Dewiswch gyfnod newydd o’r llinell graff Sgôr Hygyrchedd neu o ddewislen y cyfnod presennol i ddangos cyfnod newydd.
Problemau hygyrchedd
Gweld rhestr o broblemau hygyrchedd a ganfuwyd yn ystod y cyfnod a ddewiswyd. Dewiswch gyfnod newydd o’r llinell graff Sgôr Hygyrchedd neu o ddewislen y cyfnod presennol i ddangos cyfnod newydd.

Caiff y problemau eu rhestru yn ôl amlder. Y sawl ar dop y rhestr yw'r rhai mwyaf cyffredin. Dewiswch Difrifol, Mawr, neu Mân i hidlo'r materion yn ôl difrifoldeb. Dylid mynd i'r afael â phroblemau difrifol yn gyntaf.
Ar gipolwg gallwch chi benderfynu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer pob problem.
Math y Ffeil
Problem hygyrchedd
Difrifoldeb
Cyfanswm yr eitemau sydd â’r un broblem
Cliciwch ar eitem i weld disgrifiad llawn o’r broblem a’r parthau sy’n cael eu heffeithio ganddi.
Mae’r tabl Parthau â’r broblem hygyrchedd hon yn dangos enw’r parth, nifer eitemau’r parth sy’n dioddef o’r broblem ynghyd â sgôr hygyrchedd y parth. Mae parthau sy'n cael y broblem honno amlaf yn ymddangos ar dop y rhestr.

Cliciwch ar Dychwelyd i’r trosolwg i ddychwelyd i drosolwg adroddiad hygyrchedd Ally. Cliciwch ar ddewislen adroddiad y cyfnod i gymharu parthau a oedd ganddyn nhw’r un broblem yng nghyfnod gwahanol.
Dewiswch barth i arddangos yr eitemau sy’n dioddef o’r broblem hon.
Gweld rhestr o’r eitemau sy’n dioddef o’r broblem hygyrchedd a’u sgoriau hygyrchedd.
Cliciwch ar Dychwelyd i’r broblem i ddychwelyd i’r rhestr Parthau sy’n dioddef o’r broblem hygyrchedd hon . Cliciwch ar Allgludo’r parth i lawrlwytho adroddiad unigol y parth. Dewiswch dudalen gwe neu ffeil i'w gweld. Dewiswch Mynd i’r parth i ymweld â thudalen cartref y parth.
