Parthau Adroddiad Hygyrchedd Ally
Gwelwch sut mae cynnwys eich gwefan yn perfformio yn ôl parth. Mae’r tabl hwn yn nodi pob un parth sydd â phroblem o ran ei hygyrchedd.
Ar gyfer pob parth, byddwch yn gweld yr enw, nifer yr eitemau yn y parth gyda phroblem, yr URL sylfaenol a'r sgôr hygyrchedd ar gyfer y parth.

Mae modd canfod parth penodol, allgludo adroddiad y parth neu ddewis parth arall i dderbyn rhagor o wybodaeth yn ei gylch.
Cynghoryn
Adroddiad parth unigol
O adroddiad unigol y parth, gallwch weld holl ffeiliau'r parth, yr holl dudalennau gwe, y sgôr hygyrchedd gyffredinol, a'r problemau hygyrchedd yn y parth.
Cliciwch ar Allgludo’r parth i lawrlwytho adroddiad unigol y parth. Dewiswch eitem i weld y dudalen gwe neu ffeil. Cliciwch Mynd i’r parth i ymweld â’r parth.

Cyfanswm ffeiliau, tudalennau, a sgôr hygyrchedd y wefan.
Yn yr adroddiad Cyfanswm ffeiliau, mae lliw yn cynrychioli gwahanol fathau o gynnwys. Pwyntiwch at fath o gynnwys i weld y cyfanswm a grëwyd a sgôr hygyrchedd ar gyfer y math hwnnw.
Cynghoryn
Mae defnyddwyr darllenydd sgrin yn gallu pwyso Tab i symud trwy'r tabl Cyfanswm y ffeiliau cudd.
Gweler faint o dudalennau sydd wedi'u creu yn y parth yn yr adroddiad Cyfanswm tudalennau.
Gallwch dderbyn gwybodaeth ar lwyddiant eich gwefan yn adroddiad Cyfanswm y sgôr hygyrchedd. Po uchaf y sgôr y gorau mae eich cynnwys yn perfformio.
Gall un parth fod â llawer o wahanol dudalennau, mae dogfennau neu PDFs hefyd yn cael eu hystyried fel tudalennau. Gweler y ddelwedd isod sy'n dangos sut mae parthau a thudalennau yn cael eu cyfrif yn Ally.

Problemau hygyrchedd
Gweld rhestr o’r problemau hygyrchedd a ganfuwyd yn y parth. Caiff y problemau eu rhestru yn ôl amlder. Y sawl ar dop y rhestr yw'r rhai mwyaf cyffredin. Dewiswch Difrifol, Mawr, neu Mân i hidlo'r materion yn ôl difrifoldeb. Dylid mynd i'r afael â phroblemau difrifol yn gyntaf.

Ar gipolwg gallwch chi benderfynu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer pob problem.
Math o Gynnwys
Problem hygyrchedd
Difrifoldeb
Cyfanswm yr eitemau sydd â’r un broblem
Dewiswch broblem i weld disgrifiad llawn o’r broblem a’r eitemau sy’n cael eu heffeithio ganddi. Gweld pob un eitem a’i sgôr hygyrchedd.
Cliciwch ar Dychwelyd i’r broblem i ddychwelyd i adroddiad y parth. Cliciwch ar eitem i weld y ffeil sy’n gysylltiedig ag ef. Cliciwch Mynd i’r parth i ymweld â’r parth.
