Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Golygyddion Cynnwys ar gyfer Ally
Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?
Mae Ally yn darparu fformatau amgen ar gyfer y mathau hyn o gynnwys:
Ffeiliau PDF
Ffeiliau Microsoft® Word
Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®
Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
Cynnwys a grëir yn offeryn golygu'r dudalen we (WYSIWYG)
Gellir cynhyrchu'r fformatau amgen hyn:
Fersiwn OCR (ar gyfer dogfennau wedi'u sganio)
PDF wedi'i dagio (ar gyfer ffeiliau Word, PowerPoint ac Open Office/LibreOffice ar hyn o bryd)
HTML sy'n addas ar gyfer dyfeisiau symudol
Sain
ePub
Braille Electronig
BeeLine Reader
Fersiwn Cyfieithedig
Mae’r Fersiwn Cyfieithedig wedi’i analluogi yn ddiofyn. Gall gweinyddwyr gyflwyno cais am gymorth i’w alluogi.
A gynhyrchir fformatau amgen ar ôl cyflwyno cais i lawrlwytho?
Pan ofynnir am fformat amgen ar gyfer eitem o gynnwys am y tro cyntaf, bydd Ally yn cynhyrchu’r fformat ar alw. Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion, fe’i cynhyrchir o fewn 1-2 funud.
Ar ôl ei gynhyrchu, lawrlwythir y fformat amgen. Wedyn, mae Ally yn cadw'r canlyniad yn y storfa, er mwyn cynhyrchu a lawrlwytho ceisiadau ychwanegol ar gyfer yr un fformat amgen o'r storfa ar unwaith.
Cwestiynau Cyffredin Ally Braille
Pa god Braille mae Ally yn ei ddefnyddio ar gyfer y Fformat Braille Electronig?
Mae Ally yn defnyddio'r ffeil Braille .brf (Braille Ready File) fel y fformat Braille electronig. Mae'r cod braille a ddefnyddiwyd yn dibynnu ar iaith y ddogfen. Ar gyfer dogfennau Saesneg, mae Ally yn defnyddio Gradd 2 Braille Saesneg Safonol (cywasgedig).
A ellir argraffu Fformat Braille Electronig Ally gan ddefnyddio argraffydd Braille?
Gellid defnyddio fformat .brf (Braille Ready File) ar gyfer dangosyddion braille electronig a boglynwyr braille (argraffyddion).
Nodyn
Bydd rhaid ichi wirio a yw boglynnwr/argraffydd Braille penodol yn cefnogi'r fformat .brf.
Pam ydw i'n gweld "Mae'r fformatau amgen ar gyfer y ffeil hon wedi'u hanalluogi"?
Gall gweinyddwyr ddiffodd fformatau amgen ar gyfer tudalennau gwe a ffeiliau unigol.
Beth sydd angen i olygyddion cynnwys ei wneud i gynhyrchu fformatau hygyrch amgen ar gyfer eitem cynnwys?
Dim byd. Bydd Ally yn sylwi ar unrhyw ddeunydd presennol neu newydd yn awtomatig, yn ei rhedeg trwy'r rhestr wirio hygyrchedd, ac yn gwneud y fersiynau amgen ar gael i'r ymwelwyr a'r golygydd.
Oes terfyn maint ffeil?
Nid yw Ally yn gorfodi maint ffeil mwyaf. Efallai bydd achosion lle mae'r algorithm yn methu â chynhyrchu fformatau amgen ar gyfer rai ffeiliau mawr.
Cadwch y cynnwys gwreiddiol yn fyrrach na 100 o dudalennau i gynhyrchu fformat OCR ar gyfer dogfennau wedi'u sganio.
Cyfyngwch gynnwys i 100,000 o nodau ar gyfer y fformat sain. Mae’r terfyn nodau hyn fel arfer yn cyfateb i o leiaf 30 tudalen neu nifer o oriau o sain.
Cyfyngwch gynnwys i 30,000 o nodau ar gyfer y fformat wedi’i gyfieithu.
Cyfyngwch ffeiliau wedi’u trwsio sy’n cael eu huwchlwytho drwy banel Adborth i Hyfforddwyr i 50MB.
Sut mae Ally yn trin cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair?
Mae Ally yn canfod cynnwys wedi'i warchod gan gyfrinair, yn rhoi sgôr hygyrchedd 0% i'r cynnwys ac yn darparu canllawiau i helpu i gael gwared ar y cyfrinair trwy'r panel adborth Golygydd cynnwys. Nid yw Ally yn cynhyrchu unrhyw fformatau amgen ar gyfer cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair, gan na allwn gael mynediad at y cynnwys ei hun.
A allaf analluogi fformatau amgen?
Ydy. Gallwch analluogi fformatau amgen ar gyfer eitemau unigol o gynnwys, os ydych eisiau gwneud hynny. Ychwanegwch y briodoledd 'data-ally-af-disabled' i'r elfen gynnwys yn eich HTML. Mae'r briodwedd hon yn eithrio'r eitem gynnwys rhag ymddangos yn y panel Fformatau amgen.
Er enghraifft, os ydych chi'n ei ychwanegu at ffeil gysylltiedig, ni fydd y ffeil gysylltiedig honno yn ymddangos yn y rhestr: <a data-ally-af-disabled href:"https://filename.pdf">PDF file</a>.
Tynnwch y briodoledd ar unrhyw adeg, os ydych eisiau i’r eitem o gynnwys ymddangos yn y panel Fformatau amgen.
Cwestiynau Cyffredin Adborth
Sut ydw i'n gweld yr holl broblemau?
Dewiswch Pob broblem i weld pob problem yn y ffeil. Mae'r olwg hon yn dangos ichi faint y gall y sgôr wella trwy atgyweirio pob problem. Canfyddwch y broblem rydych am ddechrau ei atgyweirio a dewiswch Atod.

Pa drothwy sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer lliw'r dangosydd hygyrchedd?
Rydym yn darparu sgôr hygyrchedd i bob dogfen, sef sgôr ganran sydd i fod i adlewyrchu pa mor hygyrch yw eitem, faint o bobl y gall effeithio arnynt, pa mor ddifrifol mae'n effeithio arnynt, ac ati. I gyfrifo'r sgôr hygyrchedd ar gyfer dogfen, rydym yn cymryd cyfartaledd pwysedig o'r gwahanol reolau/gwiriadau hygyrchedd, gan fod rhai rheolau yn bwysicach/mwy sylweddol nag eraill.
O fewn y Rhyngwyneb Defnyddiwr, rydym yn defnyddio trothwyon ar gyfer penderfynu lliw'r dangosydd.
Eiconau Sgôr Hygyrchedd Ally
Mae sgoriau yn amrywio o Isel i Perffaith. Po uchaf y sgôr po leiaf y problemau.

Isel (0-33%): Angen help! Mae problemau hygyrchedd difrifol.

Canolig (34-66%): Ychydig yn well. Mae'r ffeil rhywfaint yn hygyrch ac mae angen gwella.

Uchel (67-99%): Bron yna! Mae'r ffeil ar gael ond mae rhagor o welliannau yn bosibl.

Perffaith (100%): Perffaith! Ni nododd Ally unrhyw broblemau hygyrchedd ond efallai y bydd gwelliannau pellach yn bosibl o hyd.
Mae hygyrchedd yn sbectrwm lle mae gwelliannau pellach bob amsehygyrcheddr yn bosibl, felly mae'n anodd darparu pwynt bod yr eitem yn dod yn "hygyrch". Fodd bynnag, unwaith y bydd eitem yn y parth gwyrdd dylai fod yn gwneud yn rhesymol dda.
Ar gyfer pa fathau o gynnwys mae rhagolygon yn y porwr ar gael?
Mae rhagolygon yn y porwr ar gael ar gyfer y ffeiliau hyn ar hyn o bryd:
Delweddau
Dogfennau PDF
Dogfennau Word
Cyflwyniadau PowerPoint
Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice (Writer ac Impress)
Cynnwys WYSIWYG a grëwyd yn eich LMS
Wedyn, defnyddir y rhagolygon hyn i nodi ble gallwch ddod o hyd i broblemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Darparir amlygiadau ar hyn o bryd ar gyfer y problemau hyn:
Delweddau heb ddisgrifiad amgen priodol
Darnau o destun â chyferbyniad annigonol
Tablau heb benawdau tabl
Bydd adborth ar gyfer problemau hygyrchedd eraill ond yn dangos y rhagolwg o gynnwys heb amlygiadau.
Fideos YouTube
Beth mae Ally yn ei wneud â fideos YouTube?
Mae Ally yn gwirio fideos YouTubeTM am gapsiynau ac yn cyflwyno'r wybodaeth hon yn yr adroddiadau hygyrchedd. Nid ystyrir capsiynau YouTube a gynhyrchwyd yn awtomatig i fod yn gapsiynau dilys. Ystyrir unrhyw fideo YouTube sydd â chapsiynau a gynhyrchwyd yn awtomatig i fod ‘heb gapsiwn’ yn yr Adroddiad Sefydliadol.
Mae Ally yn gwirio am fideos YouTube wedi’u plannu a dolenni i fideos YouTube.
O fewn yr adroddiad, mae'r golofn "HTML: Mae’r cynnwys HTML yn cynnwys fideos heb gapsiynau" yn amlygu'r nifer o gynnwys a ffeiliau HTML sydd â fideos YouTube heb gapsiynau. Yn ffeil allgludo'r Adroddiad Sefydliadol, enw’r golofn yw HtmlCaption:2.
Pwysig
Nid yw'r broblem hon yn cyfrannu i'r sgôr cyffredinol gan na all Ally ddilysu manwl gywirdeb capsiynau a gynhyrchwyd yn awtomatig eto.
Nid oes unrhyw adborth na fformatau amgen ar gael ar yr adeg hon ar gyfer fideos.