Braille Electronig
Mae'r ffeil amgen braille electronig yn creu ffeil BRF y gellir ei darllen ar ddangosydd Braille y gellir ei adnewyddu (RBD), ddyfeisiau eraill sy'n darllen Braille, neu o fewn meddalwedd Braille megis Duxbury.
Meddyliwch am Ddangosydd Braille y gellir ei Adnewyddu (RBD) fel cyfrifiadur heb fonitor. Mae mwyafrif y dyfeisiau hyn yn gallu cysylltu â'r we, creu dogfennau, cyrchu calendrau, a gwneud llawer o'r swyddogaethau sylfaenol a ddarperir gan gyfrifiadur. Gall y dyfeisiau hyn fod yn ddyfeisiau annibynnol. Hefyd, gellir eu cysylltu â ffôn clyfar, iPad neu liniadur. Mae'r rhan fwyaf o ddyfeisiau RBD yn gallu darllen un llinell o Braille ar y tro yn unig.
Gwyliwch y fideos hyn i ddysgu rhagor:
Achosion Defnydd
Gall braille electronig fod ar eich cyfer chi os:
Mae gennych nam ar y golwg.
Rydych chi'n gyfarwydd â braille.
Mae'n well gennych ddarllen.
Rydych eisiau darllen a gwrando ar y cynnwys ar yr un pryd.